2 Mawrth 2026
Dyfodol Rygbi Cymru
Annwyl Mr Collier-Keywood,
Rwy'n ysgrifennu atoch yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ddydd Iau diwethaf, a hoffwn ddiolch i chi, Alison Thorne a Geraint John am ymddangos gerbron y Pwyllgor.
Rydym yn cydnabod y gwaith caled, sylweddol, sydd wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf i sefydlogi sefyllfa ariannol Undeb Rygbi Cymru, yn ogystal รข datblygiadau cadarnhaol o fewn diwylliant yr Undeb. Rydym hefyd yn cydnabod bod yr Undeb ac arweinwyr unigol weithiau'n agored i feirniadaeth sy'n amhriodol o ddidostur, yn enwedig ar-lein.
Fodd bynnag, mae'n amlwg i ni fod rygbi Cymru mewn cyflwr enbydus. Maeโr ansicrwydd ynghylch dyfodol y rhanbarthau wedi achosi cryn bryder i bobl o bob cwr o Gymru. Ni ellir cyflawni unrhyw raglen newid heb feithrin consensws dros y newid hwnnw. Mae'n amlwg nad oes gan yr Undeb y consensws sydd ei angen i fwrw ymlaen รข'r cynnig i leihau nifer y timau rhanbarthol o bedwar i dri. Rhaid i Undeb Rygbi Cymru gydnabod ei fod wedi colli'r ddadl dros ddyfodol y gรชm broffesiynol.
Roedden niโn synnu eich clywed chiโn dweud wrthym, os na fydd eich cynigion presennol yn mynd rhagddynt yn รดl eich disgwyl, nad oes gennych chi Gynllun B. Pe bai hyn yn wir, gallai fod yn arwydd eich bod yn esgeuluso'ch dyletswyddau yn sylweddol. Rydym yn eich annog yn gryf i ddod o hyd i ddull gwahanol sy'n parhau i sefydlogi sefyllfa ariannol yr Undeb a chynnal hyder, ac sydd hefyd yn meithrin ymddiriedaeth clybiau a chefnogwyr.
Mae gan bobl Cymru ymdeimlad dwfn o berchnogaeth, balchder a chysylltiad emosiynol รขโr gamp. Rhaid parchu a meithrin y cysylltiad hwnnw. Rhaid i'r Undeb osgoi sefyllfa lle maeโn ennill y bleidlais ond yn colli enaid rygbi Cymru.
Byddem yn croesawu rhagor o eglurder ynghylch y materion sydd yn y llythyr hwn.
Edrychaf ymlaen at dderbyn eich ymateb.
Yn gywir,
Delyth Jewell AS
Cadeirydd
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Ar รดl i Undeb Rygbi Cymru roi tystiolaeth i Bwyllgor Chwaraeon y Senedd ar 26 Chwefror, mae'r pwyllgor wedi ysgrifennu at y sefydliad i nodi ei bryderon.
Darllenwch mwy: https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=47201
06.03.2026 13:00
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Darlun yn dangos draig cartลตn yn gwisgo het gaeaf, yn dathlu'n llawen gyda sbarcyl, dan dรขn gwyllt gyda'r testun 'Blwyddyn Newydd Dda'.
Blwyddyn Newydd Dda, bawb ๐ซ
01.01.2026 10:01
๐ 2
๐ 1
๐ฌ 0
๐ 0
Dail a mefus y gelyn ar gefndir glas gyda'r testun Nadolig Llawen.
Nadolig Llawen, bawb! ๐ ๐
25.12.2025 10:25
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Gyda amseroedd aros hir a dim digon o gymorth clinigol ar gael, clywodd Pwyllgor Iechyd y Senedd fod llawer o bobl yn wynebu effaith oedi triniaeth gofal llygaid.
Mae'r Pwyllgor yn galw am weithredu'r Strategaeth Glinigol Genedlaethol, er mwyn atal oedi pellach - https://bit.ly/44gO6Jh
28.11.2025 16:00
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Gwnaeth yr Aelod Senedd newydd dros Gaerffili, Lindsay Whittle AS, ei gadarnhad yn Siambr Hywel heddiw.
Gallwch ddysgu mwy am yr Aelodau a dod o hyd i'r AS ar gyfer eich etholaeth yn:
https://bit.ly/3O8po4J
24.10.2025 15:12
๐ 6
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Beth yw eich barn chi ar rasio milgwn yng Nghymru?
Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd eisiau clywed eich barn!
Cwblhewch yr arolwg a dweud eich dweud: https://bit.ly/4q4JGhR
14.10.2025 11:30
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Mae adroddiad gan y Senedd yn rhybuddio bod Cymru wedi cyrraedd croesffordd wrth i raniadau ddyfnhau.
Mae'n galw am gamau brys i feithrin ymddiriedaeth, ymdrin รข chamwybodaeth a dod รข chymunedau ynghyd. https://bit.ly/4pWrUgt
09.10.2025 15:52
๐ 1
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Delwedd hyrwyddo yn dangos milgwn yn rasio ar hyd trac, gyda thestun wedi'i orchuddio yn darllen 'AROLWG Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)'.
Rhannwch eich barn!
Mae arolwg Pwyllgor Diwylliant y Senedd ar rasio milgwn yng Nghymru bellach ar gael.
Dim ond cwpl o wythnosau sydd gennych i gymryd rhan, felly gwnewch yn siลตr eich bod chi'n dweud eich dweud: ๐ https://bit.ly/42rnLar
06.10.2025 18:15
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Holl ddyddiadau allweddol etholiad y Senedd 2026, mewn un lle.
O ddiwrnod y bleidlais iโr cerrig milltir syโn dilyn yr etholiad, cedwir y llinell amser hon yn gyfredolโy ffordd gyfleus ichi gael y diweddaraf. https://bit.ly/42hYLCu
01.10.2025 15:50
๐ 0
๐ 1
๐ฌ 0
๐ 0
Maeโr Aelodau yn holi Llywodraeth Cymru ar yr economi, ynni, cynllunio, iechyd a gofal cymdeithasol heddiw.
Yn ddiweddarach, byddant yn trafod cynnig i gael Bil ar dipio anghyfreithlon a deiseb yn galw am osod briciau gwenoliaid duon mewn adeiladau newydd.https://bit.ly/4mM62Bz
01.10.2025 07:33
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Maeโn dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiauโn gynrychiolaeth.
Dyma sut maeโn gweithio a beth mae hynnyโn ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: https://bit.ly/421Qi5U
30.09.2025 16:10
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Yr Aelodau yn holiโr Prif Weinidog yn FMQs heddiw.
Yn ddiweddarach, byddant yn clywed datganiadau Llywodraeth Cymru ar gyfer enwau lleoedd Cymraeg a dyfodol Ystad y Goron yng Nghymru.
Dyma bopeth sydd ar y gweill heddiw:https://busnes.senedd.cymru/ieListDocuments.aspx?CId=700&MId=15365&Ver=4
30.09.2025 07:00
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol yn fwy o ddifrif
Rhaid i Lywodraeth Cymru roi rhagor o flaenoriaeth i gynllunio ar gyfer anghenion seilwaith Cymru yn y dyfodol, yn รดl un o bwyllgorauโr Senedd.
Mae cynllunio ar gyfer prosiectau megis amddiffynfeydd rhag llifogydd a datblygiadau ynniโn cael ei ddal yn รดl gan Lywodraeth Cymru.
Dyma un o brif ganfyddiadau adroddiad gan Bwyllgor Seilwaith y Senedd.
Bydd Aelodauโn trafod yr adroddiad yn y Senedd heddiw.
Dysgu mwy: https://bit.ly/4mqv1KF
24.09.2025 09:47
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Faint ydych chiโn ei wybod am y Senedd?
Profwch eich gwybodaeth gydaโn cwis cyflym โ tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? https://senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-senedd/cwis-senedd-cymru/
21.09.2025 13:48
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Mae Aelodau oโr Senedd (ASau) wedi pleidleisio o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Bysiau โ 37 o blaid, 12 yn erbyn ac 1 yn ymatal.
Nawr bydd yn symud i gyfnod trafod manwl a newidiadau posibl cyn iโr Aelodau bleidleisio ynghylch a ddylai ddod yn gyfraith. https://bit.ly/3Vq5whB
19.09.2025 16:02
๐ 1
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Mae Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025 wedi cael y cydsyniad brenhinol a dawโn Ddeddf gan Senedd Cymruโcyfraith newydd yng Nghymru.
Gallwch archwilio holl fanylion y Ddeddf ar ein gwefan. https://bit.ly/3UOdNeT
18.09.2025 17:11
๐ 0
๐ 1
๐ฌ 0
๐ 0
Car wedi suddo ar stryd sydd wedi gorlifo. Mae'r copi yn darllen "Difrod storm: Diffyg cefnogaeth yn brifoโn ddwfn".
Mae cymorth brys yn dilyn stormydd Bert a Darragh wedi bod yn annigonol i gymunedau Cymru.
Roedd teuluoedd a busnesauโn wynebu costau enfawr heb fawr o gymorth.
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw am ddiwygiadau ar frys i gyllid, yswiriant a chynllunio seilwaith.
๐ https://bit.ly/46pobjP
17.09.2025 16:05
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi galw am i ofal canolraddol yng Nghymru gael ei ddiwygio.
Mae'n dweud bod rhaid i leoliadau ar รดl yr ysbyty flaenoriaethu adferiad, annibyniaeth a mynediad at ofal arbenigol. https://bit.ly/3K8I0Df
16.09.2025 16:14
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Mae Pwyllgor yn y Senedd wedi codi pryderon ynghylch cymorth i gleifion yng Nghymru sy'n gadael yr ysbyty.
Mae'n annog ailfeddwl ynghylch rhyddhau cleifion i sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar ymadfer ac ar helpu pobl i fywโn annibynnol eto. https://bit.ly/3K8I0Df
16.09.2025 09:00
๐ 0
๐ 1
๐ฌ 0
๐ 0
Gallai Bil newydd ail-reoleiddio bysiau, ond yn รดl tystiolaeth mae angen llawer o fuddsoddi a chynllunio.
Mae Pwyllgor y Senedd yn cwestiynu costau ac yn amlygu diffyg manylion.
Fory, bydd y Senedd yn pleidleisio ar ei egwyddorion cyffredinol. https://bit.ly/3I6rWRY
15.09.2025 09:00
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Yn etholiad 2026, bydd y fformiwla hon yn helpu i bennu ffurf y Senedd. Maeโn dyrannu seddi mewn rowndiau, ac yn troi pleidleisiauโn gynrychiolaeth.
Dyma sut maeโn gweithio a beth mae hynnyโn ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru: https://bit.ly/421Qi5U
12.09.2025 09:00
๐ 1
๐ 2
๐ฌ 0
๐ 0
Gallai Bil newydd drawsnewid teithio รข bysiau yng Nghymru.
Ond mae pwyllgor yn y Senedd yn pryderu bod diffyg manylder a chanllawiau clir yn y Bil โ ac mae rhanddeiliaid yn cytuno ag ef.
Pleidleisir ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 16 Medi. https://bit.ly/3I6rWRY
10.09.2025 09:00
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Difrod stormydd: Diffyg cymorth yn 'gic yn y dannedd'
Mae adroddiad wedi datgelu bylchau difrifol yn ymatebion Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i stormydd y gaeaf.
Mae cymorth brys yn dilyn stormydd Bert a Darragh wedi bod yn annigonol i gymunedau Cymru.
Roedd teuluoedd a busnesauโn wynebu costau enfawr heb fawr o gymorth.
Mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd yn galw am ddiwygiadau ar frys i gyllid, yswiriant a chynllunio seilwaith.
๐ https://bit.ly/46pobjP
09.09.2025 07:34
๐ 1
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Ar 7 Mai 2026, bydd Cymruโn pleidleisio ar y newidiadau mwyaf iโr Senedd mewn 25 mlynedd: 96 Aelod, 16 etholaeth newydd, un bleidlais yr un.
Pโun a ydych yn pleidleisio am y tro cyntaf ai peidio, dyma fydd yn newidโa pham. https://bit.ly/40Ycmhx
08.09.2025 09:00
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Faint ydych chiโn ei wybod am y Senedd?
Profwch eich gwybodaeth gydaโn cwis cyflym โ tybed beth wnewch chi ei ddysgu ar hyd y ffordd? https://senedd.cymru/senedd-nawr/blog-y-senedd/cwis-senedd-cymru/
06.09.2025 14:51
๐ 0
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Oeddech chiโn gwybod bod eich Senedd yn newid yn 2026?
โ๏ธY ffordd rydych chi'n ethol pwy syโn eich cynrychioli
๐บ๏ธSawl Aelodau sy'n eich cynrychioli
๐
Pa mor aml y cynhelir etholiadau i ddewis pwy sy'n eich cynrychioli
Pob dim sydd angen i chi wybod โฌ๏ธ
https://bit.ly/4fU8kev
05.09.2025 09:00
๐ 1
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0
Ydych chi erioed wedi clywed am D'Hondt?
O 2026 ymlaen, bydd y fformiwla hon yn siapio'r Senedd. Mae'n dyrannu seddi mewn rowndiau, gan gydbwyso pleidleisiau a chynrychiolaeth.
Dyma beth mae hyn yn ei olygu i bleidleiswyr yng Nghymru. https://bit.ly/421Qi5U
04.09.2025 12:00
๐ 1
๐ 0
๐ฌ 0
๐ 0