Balch iawn i gyflwyno ein record feinyl hyfryd diweddaraf - Selar3!
Hwn ar y ffordd i aelodau Clwb Selar wythnos yma.
Diolch yn fawr i'r artistiaid a label am eu parodrwydd i gyd-weithio, ac i Lleucu Non am y gwaith celf 👌
Balch iawn i gyflwyno ein record feinyl hyfryd diweddaraf - Selar3!
Hwn ar y ffordd i aelodau Clwb Selar wythnos yma.
Diolch yn fawr i'r artistiaid a label am eu parodrwydd i gyd-weithio, ac i Lleucu Non am y gwaith celf 👌
Llongyfarchiadau mawr i Mr Phormula, Ed Holden - enillydd Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau'r Selar eleni 👏
Rhestrau byr diweddaraf Gwobrau'r Selar wedi eu datgelu - un arall i ddod ar raglen Ifan Davies BBC Radio Cymru fory (dydd Gwener 20 Chwefror) ynghyd â un cyhoeddiad pwysig iawn arall! Tiwniwch mewn.
Tocynnau'r noson Wobrau yn Aber dal ar gael (dolen yn y stori)
selar.cymru/2026/cyhoedd...
7 DIWRNOD I FYND!
Wythnos i heno byddwn ni yn @undebaber ar gyfer noson Wobrau'r Selar!
Gwnewch yn siŵr eich bod chi yna - archebwch eich tocynnau nawr!
selar.cymru/gwobrau/tocyn/
Mae Knuckle MC yn ôl gyda'i sengl ddiweddaraf, ac wedi bod yn cyd-weithio gyda'r artist electronig, Crwban
Pedair o restrau byr Gwobrau'r Selar wedi eu cyhoeddi bellach, a bydd un arall yn cael ei datgelu ar raglen BBC Radio Cymru Mirain Iwerydd heno - tiwniwch mewn
Diolch i Nation.Cymru am y darn yma am Wobrau'r Selar eleni 👌
nation.cymru/culture/majo...
Rhag ofn i chi golli'r newyddion yn gynharach yn yr wythnos, mae holl fandiau noson Wobrau'r Selar eleni wedi eu cadarnhau bellach ac mae'n chwip o leinyp!
Tocynnau ar werth nawr am £15 - bachwch un cyn iddyn nhw fynd!
selar.cymru/2026/cyhoedd...
📣CYHOEDDIAD LEIN-YP LLAWN📣
Dyma ni felly, yr amser wedi dod i gyhoeddi lein-yp llawn Gwobrau'r Selar eleni.
Tocynnau ar werth nawr - peidiwch meiddio colli'r noson arbennig yma 🔥
selar.cymru/gwobrau/tocyn/
Diolch hefyd i Brifysgol Aberystwyth am noddi'r digwyddiad ❤️
#gwobraurselar
CYHOEDDIAD LEIN-YP
Yr amser wedi dod i gyhoeddi mwy o fanylion Gwobrau'r Selar!
Rydan ni'n falch iawn i ddatgelu bydd Bwncath a Buddug yn ymuno gyda ni yn Aber ar 21/02.
Rydan ni hefyd yn hynod o falch i gyhoeddi mai Mirain Iwerydd fydd yn cyflwyno'r noson o'r llwyfan
selar.cymru/gwobrau/plei...
Dim ond tri diwrnod ar ôl i bleidleisio dros Wobrau'r Selar. Mae cannoedd wedi pleidleisio'n barod ond mae ambell gategori dal yn agos iawn. Pleidlais yn cau ar 23 Ionawr.
Cofiwch fanteisio hefyd ar y pris 'cyntaf i'r felin' rhad ar gyfer tocynnau noson Wobrau'r Selar
selar.cymru/gwobrau/plei...
Bydd Lleuwen Steffan ar daith ddiweddaraf @pyst.bsky.social a Mentrau Iaith Cymru ym mis Chwefror
Pleidlais Gwobrau'r Selar ar agor nes 23 Ionawr ✅
Tocynnau'r gig ar werth am bris bargen gynnar ✅
Mae @ffosgoch.bsky.social yn parhau'n gynhyrchiol ac wedi rhyddhau casgliad newydd reit unigryw
Balch iawn i gyhoeddi manylion cyntaf Gwobrau'r Selar eleni - 21 Chwefror, ac yn ôl yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth lle'r ydan ni wedi gweld cymaint o nosweithiau cofiadwy. Bydd pleidlais Gwobrau'r Selar yn agor mewn ychydig ddyddiau, a thocynnau'r gig ar werth yr un pryd 🔥
Pwy ydy'r artistiaid newydd i gadw llygad barcud arnyn nhw yn ystod 2026? Dyma farn Golygydd cylchgrawn Y Selar, Gruffudd Emrys
Pwy ydy'r artistiaid cerddorol newydd fydd yn creu argraff yn ystod 2026? Dyma argymhellion Golygydd Y Selar, Gruffudd Emrys
Nadolig llawen pawb! Pwy fu'n pori trwy eu copi o flwyddlyfr Y Selar ar ddydd Nadolig?
Mae nifer cyfyngedig o gopïau ar ôl i unrhyw aelodau premiwm newydd o Glwb Selar, ynghyd â'r danteithion eraill sy'n eich cyrraedd ar hap!
Pa fideos sydd ar goll o'n rhestr chwarae fideos cerddoriaeth Cymraeg 2025? Helpwch ni gynnwys pob un sy'n gymwys ar gyfer Gwobrau'r Selar eleni 🙏🏾
www.youtube.com/watch?v=bAas...
Cân Nadolig Gymraeg orau 2025? Barnwch dros ei hunain, ond mae hon yn gynnig neis iawn gan Chwaer
Dim ond deuddydd ar ôl i gynnig eich enwebiadau ar gyfer Gwobrau'r Selar 2025
Blwyddlyfr Y Selar 2026 ar y ffordd i aelodau lwcus Clwb Selar - diolch i bawb am gefnogi a sicrhau bod modd i ni wireddu prosiectau fel hyn 🙏🏾
Rhestr gynnyrch 2025 wedi'i ddiweddaru...ond ydan ni wedi methu rhywbeth? Gyrrwch DM neu ebost i yselar@live.co.uk os oes rhywbeth ar goll 🙏🏾
selar.cymru/gwobrau/cynn...