Mae'r llun yn dangos taflen liw yn cael ei dal gan selotep ar dudalen lwyd. Ar y dde, mae darlun o olygfa eira, gyda bwthyn coch yn y pellter. Yn y blaen, mae sled goch yn llawn llyfrau, yn cael ei thynnu gan gi gwyn, ac uwch ei ben mae ymbarél wedi torri.
Ar y chwith mae’r geiriau canlynol:
Siop Lyfrau Ysgol!
Gwelwyd siop Llyfrau Cymraeg twt iawn yn Ysgolion Maes Garmon, yr Wyddgrug, Ysgol Gyfun, Ystalyfera as Ysgol Rhydfelen, Pontypridd. Wrth gwrs, mae yna lu mawr o siopau llyfrau Saesneg ar hyd a lled y wlad.
Daeth ceisiadau hefyd am gychwyn siopau llyfrau o Ysgolion Uwchradd Llanfyllin, Syr Hugh Owen [Adran Iau], Caernarfon, a Morgan Llwyd, Wrecsam, yn ogystal ag Ysgolion Cynradd y Garnedd [Bangor], Rhiwlas, Bontnewydd a Maenan [Llanrwst].
Siop! Siop!
Wedi ei ddal â selotep o dan y daflen, mae darn sy’n cynnwys y geiriau canlynol:
ALLAN O SGWARNOG, LLAIS LLYFRAU’R PLANT.
Tudalen llyfr lloffion o Gasgliad Ysgol Rhydfelen a gedwir yn Archifau Morgannwg [dyddiad 1980]
Bloedd Nadoligaidd i siop lyfrau'r ysgol! Fodd bynnag, mae'n dyddio o 1980 – yr obsesiwn selotep ofnadwy yn ei anterth! #AEACadwraeth O Gasgliad Llyfrau Lloffion Ysgol Rhydfelen y mae ein gwirfoddolwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd 📚📚📚 #EYAConservation