Cymorth yng Nghymru: Cronfa Sgiliau Teledu Pen Ucha’r Farchad (HETV)
“Rydw i wedi bod yn y diwydiant gwallt ers 16 mlynedd. Heb ddarganfod fy lleoliad hyfforddi cychwynnol drwy’r adnodd Canfod Cyfle Hyfforddi, ni fyddwn wedi gwybod ble i ddechrau ym maes gwallt a cholur ffilm a theledu. Mae fy mhrofiad gyda’r adnodd Canfod Cyfle Hyfforddi wedi bod yn wych: y cymorth parhaus, cyfathrebu, addysg a chyfleoedd. O ddiwrnod y cyfweliadau cychwynnol a’n cyfnod cynefino, mae fy mhrofiad wastad wedi bod yn bositif a chyfeillgar iawn. Rwy’n meddwl mai’r hyn rydw i wedi’i ganfod fwyaf defnyddiol oedd yr hyfforddiant parhaus, fel sut i ysgrifennu CV a chwrdd â dylunwyr, ar Zoom, a fyddai’n dweud wrthym am sut i ymddwyn ar y set a’r pethau i’w gwneud a’r pethau na ddylid eu gwneud yn y diwydiant. Rydw i bellach ar fy seithfed cynhyrchiad cyflogedig, gyda phedwar o'r rhain wedi bod drwy ScreenSkills.”
Rebecca Hainsworth
Artist gwallt a cholur dan hyfforddiant HETV ScreenSkills
Roedd #HMUA Rebecca wedi bod yn hogi ei chrefft ers 16 mlynedd cyn #TraineeFinder. Gyda chymorth y rhaglen a’r hyfforddiant sy’n paratoi hyfforddeion i fod ar set, cymerodd ei chamau cyntaf i fyd gwallt a cholur ar gyfer ffilm a theledu, gan weithio yn y pen draw ar rifyn y Nadolig o #Gavin&Stacey!